SL(6)444 - Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau hyn”) yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd gael ei roi o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 (“cyfarwyddyd adran 167A”) sy’n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru, neu sy’n cyfyngu ar allu person i wneud hynny.  Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd adran 167A, yr amgylchiadau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei amrywio neu ei ddirymu odanynt a darpariaeth ynghylch apelau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A.

Caniateir i gyfarwyddydau adran 167A gael eu rhoi mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, sydd wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sy’n ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sydd wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, os yw’r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru) yn ystyried bod y person felly yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol (rheoliad 2). Mae adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu’r pwerau i’r “appropriate authority” i ddyroddi cyfarwyddyd. Ystyr “appropriate authority” (“awdurdod priodol”) yw awdurdod cofrestru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall a ragnodir.  Yr awdurdod cofrestru yw Gweinidogion Cymru ac felly yr awdurdod priodol at ddibenion y cyfarwyddyd adran 167A yw Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei roi ac yn disgrifio’r hyn a olygir gan drosedd berthnasol, canfyddiad perthnasol, ac ymddygiad perthnasol at y diben hwn. Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod cyfeiriadau at euogfarnau a rhybuddiadau yn cynnwys y rheini sydd wedi eu disbyddu ar yr amod bod gorchymyn wedi ei wneud sy’n eithrio gweithredu darpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 sy’n gwahardd euogfarnau a rhybuddiadau sydd wedi eu disbyddu rhag cael eu defnyddio fel sail dros eithrio person o unrhyw swydd, proffesiwn, galwedigaeth neu gyflogaeth.

Cyn gwneud cyfarwyddyd adran 167A, rhaid i’r awdurdod priodol roi cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau o ran pam na ddylid rhoi’r cyfarwyddyd a hysbysiad am y cyfle hwnnw (rheoliad 3).  Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi’r hysbysiad a’r cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo.  Rhaid cymryd pob cam rhesymol i hysbysu person y mae cyfarwyddyd adran 167A wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Caiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd pan fo person yn ceisio ei gael wedi ei ddirymu ar un o’r seiliau a nodir yn rheoliad 5, neu pan na fo person yn ceisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu, pan fo gwybodaeth newydd yn dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, ar yr amod ym mhob achos fod yr awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ei amrywio neu ei ddirymu (rheoliad 4).

O dan reoliad 5, caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod yr euogfarn, y rhybuddiad neu’r canfyddiad o dan sylw wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu, bod yr euogfarn neu’r rhybuddiad o dan sylw wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu neu’n dod yn warchodedig, neu fod cyfnod o bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad o dan sylw gael ei wneud.  Caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd ar sail ymddygiad geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod gwybodaeth newydd wedi dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd.

Mae adran 167B(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A.  Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar bŵer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ystyried apelau mewn perthynas â chyfarwyddydau adran 167A a roddir ar sail euogfarnau.  Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar ganiatáu apêl mewn perthynas â chyfarwyddyd adran 167A. Pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu nad yw’r penderfyniad i beidio â’i amrywio neu ei ddirymu, yn briodol caiff orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r amgylchiadau y bydd person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 yn union cyn i adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ddod i rym yn cael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau i rym. 

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2024 a chânt eu gosod fel rhan o gyfres o reoliadau gyda Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Defnyddir y term “the appropriate authority” drwy gydol y Rheoliadau hyn, ond nid yw wedi'i ddiffinio ac ni roddwyd ystyr iddo. Nid yw’r ystyr a roddir gan ddiffiniad “the appropriate authority” yn adran 167A(6)(b) o Ddeddf Addysg 2002 ymhlyg yn y Rheoliadau hyn gan nad yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978 (gweler Drafftio Deddfau i Gymru, 4.12). Yn ogystal, ni fydd yr ystyr a roddir i’r term yn y Nodyn Esboniadol ac yn nhroednodyn (1) ar dudalen 4 yn diffinio “the appropriate authority” at ddibenion y Rheoliadau hyn gan nad ydynt yn rhan weithredol o’r offeryn. Felly, dylai'r term “the appropriate authority” fod wedi cael ei ddiffinio yn rheoliad 1(2) oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio drwy'r Rheoliadau hyn i gyd.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Rydym yn nodi cymhlethdod y Rheoliadau hyn, a'r anhawster posibl o ran eu dehongli a'u cymhwyso oherwydd eu cynnwys a natur y drafftio. O’r herwydd, rydym yn falch o nodi paragraff 62 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n datgan, “Cyhoeddir canllawiau ar gyfer ysgolion annibynnol ochr yn ochr â'r Rheoliadau sy'n dod i rym yn gynnar yn 2024.” 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt adrodd 1.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Ionawr 2024